Amdanom ni

Cwmni bychan gyda gweledigaeth fawr yw Fiction Factory. Mae gyda ni enw da am gyflwyno dramâu teledu arloesol, a 'dyn ni wedi ennill amrywiaeth o wobrwyon dros y blynyddoedd.

Ed Thomas, Cyfarwyddwr Creadigol Fiction Factory sy'n arwain tîm nodedig o gynhyrchwyr profiadol a thalent newydd. Dros y pum mlynedd diwethaf 'dyn ni wedi cynhyrchu dros 100 awr o raglenni, yn cynnwys rhaglenni dogfen, dramâu dogfen a dros 90 awr o ddrama. Mae ganddo ni dros 70 o enwebiadau a gwobrwyon i'n henw, o BAFTA Cymru, Celtic Media Festival i'r Rose D'Or Prix Europa.  

Ers sefydlu'r cwmni bymtheg mlynedd yn ôl, ry'n ni wedi datblygu ac annog talent newydd Cymraeg ac wedi parhau ein perthynas agos gyda nhw. Dros y blynyddoedd mae'n cydweithwyr wedi cynnwys wynebau cyfarwydd megis Matthew Rhys (Brothers & Sisters, The Edge of  Love) Rhys Ifans (Mr. Nice, Harry Potter) Ioan Gruffydd (Fantastic Four, Hornblower) Sian Phillips, y diweddar Phillip Madoc, Mark Lewis Jones, Dafydd Ieuan a Cian Ciaran o Super Furry Animals, John Cale, Cerys Matthews a Marc Evans (My Little Eye, Collision).

Mae ein henw da wedi esblygu gyda'n cynnyrch. Mae ein repertoire o raglenni yn cynnwys pob math o genre o ddrama ffantasi, 'gangland' i ddrama heddlu dwys. O ddrama gyfoes am berthnasau yn y ddinas i siwrne epig drwy draddodiad barddol hynaf Ewrop. Ry'n ni wedi profi droeon ein gallu i gyflwyno cyfresi o safon uchel gyda gweledigaeth anferth.

Drama yw'r hyn sy'n ein cyffroi ni. Ein ymrwymiad i'n gwaith a'n awch i gyflawni gwaith o'r radd flaenaf yw'r hyn sy'n ein codi o'r gwely pob bore. 'Dy ni wastad yn chwilio am y sialens nesaf ac am dalent newydd a pherthnasau cyffrous bydd yn helpu'r cwmni i esblygu.

Ers 2002 mae Fiction Factory wedi bod yn rhan o grŵp Tinopolis, un o prif gwmnïau cyfryngau annibynnol Prydain. Maent yn cynhyrchu 2500 awr o raglenni y flwyddyn sy'n cael eu dosbarthu i dros 200 o ddarlledwyr rhyngwladol. Mae aelodau eraill grŵp Tinopolis yn cynnwys y cynhyrchwyr chwaraeon llewyrchus,  Sunset and Vine, y cynyrchwr dramâu dogfen, Daybreak a'r cynhyrchwyr dogfen, Mentorn Media
Amdanom ni Image 1
Amdanom ni Image 2