Ers sefydlu’r cwmni yn 2001, mae Fiction Factory wedi bod yn creu drama apelgar o Gymru ar gyfer cynulleidfaoedd ledled y byd. Wedi eu darlledu mewn dros 100 o wledydd, ac yn ffrydio ar blatfformau fel Amazon, iPlayer, Apple TV, Netflix, ac ITVX, mae ein gwaith wedi ennill mwy na 80 o enwebiadau a gwobrau nodedig, ynghyd â denu gwylwyr selog ar draws y byd. 

O’r comedi sefyllfa chwerw-felys Satalite City a’r daith hanesyddol epig Pen Talar i ddrama dditectif arloesol Hinterland / Y Gwyll a chomedi tywyll Pren ar y Bryn / Tree on a Hill, mae ein cynyrchiadau, sydd wedi ei gwreiddio yng Nghymru, yn cyfuno’r lleol â’r byd-eang ac yn cael eu mwynhau yn rhyngwladol.

Mae ein nod yn syml: dweud straeon sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn eu lleoliadau unigryw, ond sy’n berthnasol i bawb. Rydym yn angerddol am ddarparu dramâu unigryw sydd yn dal dychymyg ein cynulleidfaoedd.

Mae Fiction Factory yn falch o fod yn rhan o Grŵp Tinopolis.

ED THOMAS
Cyfarwyddwr Creadigol

Ed Thomas yw sylfaenydd ac Uwch Gynhyrchydd Fiction Factory, lle mae wedi chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno dros 200 awr o deledu sydd wedi ennill dros 80 o wobrau teledu a ffilm. Mae ei waith yn cynnwys cyfresi a dogfennau drama nodedig fel DAL YMA NAWR, SILENT VILLAGE, CWMGIEDD/COLOMBIA, GWAITH CARTREF, a’r ddrama dditectif enwog HINTERLAND/Y GWYLL, sy’n parhau i ddenu cynulleidfaoedd ar lwyfannau ffrydio byd-eang. Mae gwaith diweddaraf Ed fel Crëwr, Awdur a Chyfarwyddwr yn cynnwys y comedi tywyll PREN AR Y BRYN/TREE ON A HILL (S4C, BBC Cymru, All3Media International), sydd bellach ar gael ar lwyfannau fel iPlayer a BritBox yn yr Unol Daleithiau, gan ehangu cyrhaeddiad Fiction Factory ymhellach i wylwyr rhyngwladol.

Mae Ed hefyd yn ddramodydd craff sydd wedi cael dylanwad mawr ar dirlun creadigol Cymru – yn aml yn archwilio themâu fel hunaniaeth a pherthyn. Mae ei weithiau wedi cael eu cynhyrchu a’u perfformio ledled y Deyrnas Unedig a’r byd, gan gynnwys yn y Donmar Warehouse, Tramway Glasgow, The Royal Court Llundain, ac mewn gwyliau yng Nghaeredin a Melbourne. Mae ei ddramâu, sydd wedi’u cyfieithu i fwy na 10 iaith, yn cynnwys House of America, East from the Gantry, Song from a Forgotten City, Gas Station Angel, ac On Bear Ridge, cafodd ei gynhyrchu ar y cyd gyda National Theatre Wales a The Royal Court yn 2019.

Yn ogystal, mae ei ffilm nodwedd 35mm HOUSE OF AMERICA, a gyfarwyddwyd gan Marc Evans gyda cherddoriaeth gan John Cale o’r Velvet Underground, wedi ennill clod rhyngwladol. Agorodd yn Wyl Ffilm Sundance yn 1997, gan ennill Gwobr y Ffilm Orau yng Ngŵyl Ffilm Gothenburg, Gwobr y Cyfarwyddwr Debut Gorau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Stockholm, a BAFTA Cymru.

Mae cyfraniadau Ed i deledu, ffilm a theatr wedi cael effaith barhaol ar dirlun creadigol Cymru, wrth iddo archwilio themâu o hunaniaeth, perthyn a chysylltiad dynol sy’n chwarae ar lwyfan byd-eang. Mae’n Gymrawd The Arts Foundation, yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal â bod yn Gymrawd Phrifysgol Cymru Aberystwyth.

Llun: Elliot Cooper

FFION WILLIAMS
Cynhyrchydd Cyfresi

Mae Ffion wedi gweithio fel cynhyrchydd i Fiction Factory ers 2016, gan gynhyrchu 30 awr o ddrama S4C, GWAITH CARTREF a chreu, ysgrifennu, a chynhyrchu’r ddrama gyfoes Bregis darlledwyd ar S4C yn 2021.

Roedd hi hefyd yn Gynhyrchydd Cyfres ar gyfer y comedi tywyll PREN AR Y BRYN / TREE ON A HILL (S4C, BBC Cymru, a All3Media International). Darlledwyd y gyfres ar S4C ym mis Tachwedd 2023 ac ar BBC Cymru yn gynnar yn 2024. Aeth y ddrama ymlaen i dderbyn sawl enwebiad am wobrau teledu gan gynnwys BAFTA Cymru, RTS Cymru a The Broadcast Awards, ac mae bellach ar gael i’w ffrydio ar iPlayer a BritBox yn yr Unol Daleithiau.

Llun: Elliot Cooper

Mark Andrew
Ymgynghorydd Sgript a Chynhyrchydd Datblygu Straeon

Mae Mark Andrew wedi bod yn gydweithiwr allweddol yn Fiction Factory ers ymuno â’r tîm ar HINTERLAND (Y GWYLL), gan weithio fel awdur ac ymgynghorydd stori ac yna’n gynhyrchydd ar gyfer y drydedd gyfres. Yn ddiweddar, bu Mark yn gweithio fel ymgynghorydd stori a chyd-greu straeon ar gyfer pennodau diweddarach ein drama gomedi dywyll epig – PREN AR Y BRYN/TREE ON A HILL ar gyfer BBC Cymru, S4C, ac All3Media.

Mae credydau eraill Mark ym maes teledu a ffilm yn cynnwys cyd-greu ac ysgrifennu CRAITH/HIDDEN, cyfres arall S4C/BBC Cymru sydd wedi cael clod mawr, lle bu hefyd yn gynhyrchydd gweithredol. Roedd hefyd yn gyd-gynhyrchydd ar y ffilm YR YMADAWIAD/THE PASSING, a enillodd BAFTA Cymru, ac ar DENMARK gan BBC Films, gyda Rafe Spall yn serennu.

Ar hyn o bryd, mae Mark yn gweithio gyda Fiction Factory fel cynhyrchydd stori, gan arwain ar ddatblygu ac addasu cynnwys newydd, gan dynnu ar ei brofiad helaeth wrth greu straeon cyfareddol ar gyfer ffilm a theledu