
Drama Lwyfan newydd ar gyfer NTW/Royal Court. Yn cael ei berfformio yn Theatr y Sherman, a Royal Court Llundain Hydref 2019.
National Theatre Wales
Sherman Cymru
The Royal Court Theatre, London
#OnBearRidge
NO PETROL FOR 12 MILES
National Theatre Wales
Rhwng 7 Medi – 13 Hydref 2019
Penwyllt, Cymru
I ddatgelu ac ymchwilio ymhellach i fyd On Bear Ridge, mae National Theatre Wales gyda’i awdur a’i gyd-gyfarwyddwr Ed Thomas, wedi creu cyfres o osodweithiau safle-benodol yn yr awyr agored.
Bydd y gosodweithiau hyn, ger Penwyllt, sy’n agos at gartref plentyndod Thomas, yn bodoli dros dro yn y dirwedd fel olion tameidiog o’r hyn oedd yno unwaith. Casgliad o bethau coll, synau ac atgofion aeth yn angof, yn suddo’n araf yn ôl i’r ddaear a’r graig.
Bydd y gosodwaith yn cynnig cyfle i ymwelwyr gael cipolwg ar fyd sydd wedi diflannu, gan eu galluogi i wrando’n ddigidol wrth ddrws a chlywed lleisiau’n sibrwd, hanner gwirioneddau a straeon anorffenedig o ffordd o fyw sydd nawr wedi’i thawelu. Stori na chafodd ei hadrodd erioed. Gweithred o gofio’r anghofiadwy.
Mae’r profiad hwn yn rhydd i’w archwilio.
Bydd cynulleidfaoedd yn Theatr y Sherman, Caerdydd a’r Royal Court, Llundain hefyd yn gallu profi’r gosodwaith drwy ffilm VR fydd ar gael i’w gwylio yn y ddwy theatr gan olygu y bydd tirwedd On Bear Ridge yn hygyrch yng nghanol y dinasoedd prysur hyn.
Gyda diolch i Hoobs Properties Ltd a Natural Resources Wales.