D: PLATES
Gan Tracey Spottiswoode, mae’r berl yma o gomedi fer yn portreadu trawsdoriad o gymuned, yn dod at ei gilydd dan amgylchiadau anhebygol ar gwrs Cymraeg preswyl.
PERFECT SUMMER
Yn y ddrama fer yma ar gyfer BBC Learning, mae Tasha ei chariad Rob a’i ffrind gorau Mel yn mynd ar drip o amgylch Cymru ar eu gwyliau haf. Yn annisgwyl iddynt mae’r daith yn eu harwain i ddarganfod pethau newydd am eu gwlad, eu hamgylchedd ond yn bwysicach fyth, am eu hunain.
DAWN
Darn prydferth, swynol wedi ei hysgrifennu gan Tim Hurley a’i saethu ar ffilm 35mm. Dyma gipolwg o fywyd ar stad gyngor yng nghanol dinas yn ei holl ysblander dieflig. Mae perfformiadau cryfion gan y plant sy’n chwarae’r prif rhannau yn orchest yn eu hunain, mewn ffilm ystyrlon, gafaelgar hon.
THE CORNET PLAYER
Tad. Mab. Siwrne.
Mae Sid yn drwm ei glyw ond yn ei ben clyw unawd corned yn chwarae. Iddo fe a’i fab, Brian gysylltu â’i gilydd, bydd rhaid i Brian gael y doethineb i glywed y gerddoriaeth hefyd.
SUNNY SIDE UP
Pan taw parc garafán yng Nghymru yw eich syniad chi o uffern, byddai meddwl am dreulio’r gwyliau haf yn ‘Sunny Side Up Holiday Park’, gyda rhieni eich gwraig, yn ddigon i wthio unrhyw ddyn at y dibyn. Felly pan ddaw Simon druan i ddarganfod taw dyna’n union mae ei wraig Milly wedi ei gynllunio ar eu cyfer a pethau’n chwith rhyngddynt – a nid am tro cyntaf. Ffilm fer wedi ei llunio’n berffaith. Mae’r gem gomig yma’n galw’r gynulleidfa i gydymdeimlo a chilwenu, crio chwerthin – a hynny oll mewn 8 munud byr.
TEXTUAL ATTRACTION/WATCH ME
Mae’r par yma o ffilmiau fer yn defnyddio technoleg newydd i greu ffilm mewn ffordd arloesol, rhyngweithiol, yn cynnwys tecstio golygfeydd yn syth i ffonai symudol y gwylwyr. Ffilm aml-gyfryngol ar ei orau.