Gadded Yr Ugeinfed Ganrif

1 x 48'

Mae gan gerddoriaeth y pwer i newid y byd.

Dyma stori’r genhedlaeth tanddaearol; stori’r genhedlaeth nad oedd gan unrhywbeth i’w golli; a mynodd neud rhywbeth am nad oedd pwnt mewn eistedd o gwmpas yn gwneud dim. Dyma stori’r genhedlaeth newidodd Cymru am byth.

Yn seiliedig ar sioe lwyfan Gareth Potter, mae Gadael Yr Ugeinfed Ganrif yn olrain hanes y sîn a fedyddiwyd gan y cyfryngau yn ‘Cŵl Cymru’ ar ganol y 1990au, nôl i’w gwreiddiau post-punk ar ddiwedd y saithdegau. O’r Cymru ddi-hyder bleidleisiodd ‘Na’ i ddatganoli yn ’79 i’r Genedl oedd yn diolch i’r Ior eu bod yn Gymry pan agorwyd Cynlliniad Cenedlaethol Cymru ugain mlynedd yn ddiweddarach. Dyma stori cenedl a chenhedlaeth yn darganfod ei llais.

Trwy lygaid y cerddorion, eu ffans, y ffansîns a’r hyrwyddwyr, fe welwn sut mae cerddoriaeth pop yn newid bywydau a newid y byd. O recordiau sengl a casets i CDs ac MP3s. O’r gigs a’r sessiynnau, yr ymladd a’r gogoniant, fe welwn ddogfen farddonol o’r amseroedd sy’n dal i ysgogi.

  • Production

    Writer/Presenter

    Gareth Potter

    Director

    Pete Telfer

    Producer

    Ed Thomas

    Line Producer

    Alec Spiteri