Yn 1943 cafodd y cyfarwyddwr Humphrey Jennings ei wahodd gan y llywodraeth i wneud ffilm fel Teyrnged i lowyr Lidice, Pentref yn Czechoslovakia a ddinistriwyd gan y Natsiaid. Fe ddewisodd Jennings Cwmgiedd fel lleoliad i’r ffilm, pentref tebyg yng nghymoedd Abertawe sy’n rhannu cymuned debyg i Lidice. Cymuned o lowyr. A’r pentrefwyr, yn hytrach nag actorion proffesiynnol sy’n perfformio ynddi.
Fel bachgen o Gwmgïedd, cymer Ed Thomas olwg ar y pentref hanner can mlynedd ymlaen. Wedi ei chyfarwyddo gan Ed a Marc Evans fe ddarlledwyd y rhaglen ar BBC1 ym mis Rhagfyr 1994 fel rhan o’r gyfres ‘Statements’ gan BBC Cymru.