Mae’r gyfres gomedi tywyll hon yn dilyn cwpl cyffredin iawn, Margaret a Clive Lewis (Nia Roberts a Rhodri Meilir) sydd, ar ôl cyfres o ddigwyddiadau, yn canfod eu hunain yng nghanol dirgelwch ac mewn tipyn o drafferth! Cafodd y cyfan ei ffilmio yng Nghwm Tawe, o amgylch Ystradgynlais ac Abercraf, lle cafodd yr awdur, Ed Thomas ei fagu, gyda’i deulu yn rhedeg siop gigydd yno am dros ganrif.
Wedi’i saethu yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae Pren Ar y Bryn/Tree on a Hill yn gyd-gynhyrchied Fiction Factory gydag S4C, BBC Cymru ac All3Media International gyda chefnogaeth gan Tinopolis a Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol.
Yn wreiddiol, darlledwyd y gyfres ar S4C, a’i haddasiad Saesneg Tree on a Hill ar BBC Cymru. Mae’r gyfres bellach ar gael ledled y Deyrnas Unedig ar iPlayer yn y ddwy iaith. Mae Tree on a Hill hefyd wedi’i phrynu gan BritBox yn yr Unol Daleithiau, gan gyflwyno’r gyfres i gynulleidfaoedd rhyngwladol.
Derbyniodd Pren ar y Bryn / Tree on a Hill pum enwebiad yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2024, gan gipio’r wobr am y Dyluniad Cynhyrchiad Gorau i Gerwyn Lloyd, tra cafodd yr actores Nia Roberts ei henwebu am y Perfformiad Drama Gorau yng Ngwobrau RTS Cymru 2024. Mae’r gyfres hefyd wedi ei henwebi ar gyfer Rhaglen Aml-Sianel Orau yn The Broadcast Awards 2025.
https://www.bbc.co.uk/mediacentre/2023/bbc-wales-tree-on-a-hill
https://www.atvtoday.co.uk/216658-s4c/
https://nation.cymru/culture/s4c-unveils-first-look-at-new-dark-comedy-drama-pren-ar-y-bryn
https://www.atvtoday.co.uk/227955-s4c/
-
Cast
Margaret
Nia Roberts
Clive
Rhodri Meilir
Sylvia
Hannah Daniel
Glyn
Richard Harrington
Herbie
Richard Lynch
John Frederick
William Thomas
Haydn
Rhodri Evan
Sgt Ruth Ellis
Suzanne Packer
Lefi
Steffan Cennydd
Alex Rapado
Jacob Ifan
Bronny
Lauren Morais
Minnie Butch
Maria Pride
Dai Chi
Russell Gomer
Frank
Rhys Parry Jones
Cassie
Tony Caroll
-
Production
Executive Producer
Ed Thomas
Written & Created by
Ed Thomas
Director
Ed Thomas
Series Producer
Ffion Williams
Producer
Adam Partridge
Line Producer
Meinir Stoutt