Y Ferch yn y Dyddiadur

1 x 50'

Stori taith y newyddiadurwr a’r darlledwr, Geraint Talfan Davies, i Ferlin i ddarganfod stori gyffrous am ei ewythr, Idris Morgan, Cymro ifanc yn wynebu grym y Natsïaid yn y tridegau. Dyddiadur ei ewythr yw unig gydymaith Geraint wrth iddo ddadorchuddio stori am ei gyfeillgarwch â merch ifanc o’r Almaen a’i marwolaeth sydyn hithau. Mae’r farwolaeth yn dod ag Idris wyneb yn wyneb â Wilhelm Brückner, prif adjutant Adolf Hitler, dim ond dyddiau cyn cyflafan Noson y Cyllyll Hirion. Mae hon yn stori bersonol sy’n datgelu gwir bersonoliaeth yr ewythr swil a brofodd agoriad llygad yn yr Almaen yn ddyn ifanc. Mae hefyd yn stori hanesyddol sy’n portreadu teulu cyffredin yn dygymod â thwf pŵer Hitler.

Roedd Y Ferch Yn Y Dyddiadur yn gyd-gynhyrchiad rhwng Severn Screen a Fiction Factory.

  • Production

    Presenter

    Geraint Talfan Davies

    Producer

    Ed Talfan

    Director

    Ed Talfan

    Executive Producer

    Christina Macaulay

    Executive Producer

    Ed Thomas

    Executive Producer

    Geraint Talfan Davies