Cyfres ddrama dditectif yw Hinterland/Y Gwyll sydd wedi cael ei ddarlledu mewn dros 100 o wledydd ledled y byd, gan ennill gwobrau nodedig ac enwebiadau lu.
Wedi’i lleoli yn nhirwedd brydferth ac atmosfferig Aberystwyth, mae’n archwilio troseddau a moeseg trwy ymchwiliadau newydd ym mhob pennod, sydd hefyd yn datgelu ochr dywyll bywyd cefn gwlad. Mae DCI Tom Mathias (Richard Harrington) yn ymdopi â gorffennol cythryblus ac yn gweithio ochr yn ochr â DI Mared Rhys (Mali Harries), sydd a’i gwybodaeth leol yn helpu i ddatrys sawl dirgelwch.
Cafodd y gyfres ei ffilmio yn Gymraeg a’r Saesneg, ac yn gynhyrchiad ar y cyd gan Fiction Factory gyda S4C, Tinopolis, ac All3Media International ar gyfer S4C, BBC Cymru, BBC Four, a Netflix.
Bellach, mae’r gyfres wedi cyrraedd cynulleidfaoedd ledled Ewrop, Gogledd America, Awstralia, ac ymhellach, gan hyrwyddo diwylliant a straeon Cymreig. Ar hyn o bryd mae ar gael ar Amazon, Apple TV, BBC iPlayer, Sky, Acorn TV, ac ITV X ac yn brawf o rym naratif rhanbarthol, gan ddod â harddwch a straeon cymhleth cefn gwlad Cymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol.
-
Cast
DCI Tom Mathias
Richard Harrington
DI Mared Rhys
Mali Harries
DS Sian Owens
Hannah Daniel
DC Lloyd Elis
Alex Harries
Chief Superintendent
Brian Prosser
-
Production
Uwch-gynhyrchydd
Ed Thomas
Cynhyrchwyr
Gethin Scourfield & Ed Talfan
Crêwyd Gan
Ed Thomas & Ed Talfan
Awduron
David Joss Buckley, Jeff Murphy, Ed Talfan, Ed Thomas
Cyfarwyddwyr
Marc Evans, Gareth Bryn, Rhys Powys, Ed Thomas
Cyfarwyddwyr Ffotograffiaeth
Hubert Taczanowski, Richard Stoddard
Cynllunydd
Eryl Ellis
Cynhyrchwyr Llinell
Kathy Nettleship, Meinir Stoutt
Cerddoriaeth
John Hardy Music